SL(6)700 – Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau (Etholiadau’r Senedd) 2025

Cefndir a Diben

Mae Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau (Etholiadau’r Senedd) 2025 (‘y Cod’) yn rhoi canllawiau ynghylch gweithredu Rhan 6 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (‘PPERA 2000’) ar gyfer trydydd partïon yn ystod y cyfnod rheoleiddiedig ar gyfer etholiadau’r Senedd, gan gynnwys yn ystod cyfnod rheoleiddiedig cyfunol lle y bo’n gymwys.

Mae’r Cod yn nodi:

              beth yw ymgyrchydd nad yw’n blaid;

              beth yw ymgyrchu di-blaid;

              y mathau o dreuliau sy’n dreuliau cymwys;

              o dan ba amgylchiadau y mae treuliau i’w hystyried, neu nad ydynt i’w hystyried, yn dreuliau a ysgwyddir er mwyn hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant etholiadol;

              y mathau o wariant sy’n cael eu trin fel rhoddion neu wariant tybiannol a reolir;

              yr amgylchiadau a fydd yn cael eu hystyried yn ymgyrchu ar y cyd;

              beth yw gwariant a reolir wedi’i dargedu a phryd y mae’n berthnasol; a hefyd

              y gofynion cofnodi ac adrodd (gan gynnwys ar gyfer cyfnodau rheoleiddiedig cyfunol).

Gweithdrefn

Negyddol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Cod gerbron y Senedd. Os bydd y Senedd, o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y gosodwyd y drafft, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r Cod drafft, ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r Cod. 

Os na wneir penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (ar ffurf y drafft), a daw’r Cod i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, a’i gyhoeddi gan y Comisiwn Etholiadol.

 

 

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r cod hwn.

(i)            Anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg

1.     Ym mharagraff 1.10, yn y diffiniad o “ymgeisydd rhestr plaid”, mae gwahaniaeth rhwng y testun Saesneg a’r testun Cymraeg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “has the same meaning as article 2 of the Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025”. Ond mae’r testun Cymraeg yn nodi “yr un ystyr ag adran 2 o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025”. Yn ogystal, dylid nodi yn nhestun y ddwy iaith fod ganddo'r un ystyr ag “yn erthygl 2” a byddai'n fwy manwl gywir cyfeirio at erthygl 2(1) o Orchymyn 2025.

2.     Ym mharagraff 6.18, yn y frawddeg gyntaf, mae gwahaniaethau rhwng y testun Saesneg a Chymraeg. Ar ddechrau'r frawddeg honno yn y testun Saesneg, mae'n nodi “If the political party use the...” mae’r testun Cymraeg yn nodi “Os bydd y blaid wleidyddol gofrestredig yn defnyddio’r…”. Yn ogystal, ar ddiwedd y frawddeg honno yn y testun Saesneg, mae'n nodi “on behalf of the registered political party” ond mae’r testun Cymraeg yn nodi “ar ran yblaid wleidyddo”.

(ii)           Defnydd anghyson o dermau yn y testun Cymraeg

3.     Ym mharagraff 1.10, yn y testun Cymraeg, mae'r term “notional controlled expenditure” wedi'i ddiffinio fel “gwariant tybiannol a reolir”. Fodd bynnag, mae term gwahanol, sef “gwariant a reolir tybiannol”, yn cael ei ddefnyddio yn y testun Cymraeg ym mharagraff 1.8 ac ym mhennawd adran 6 o’r Cod. Nid yw'r diffiniad yn gyson, felly, â'r term a ddefnyddir yn nhestun Cymraeg y Cod.

(iii)          Materion drafftio eraill

4.     Ym mharagraff 1.10, diffinnir y term “ysgwyddo” ar gyfer y Cod. Fodd bynnag, nid yw'r term hwn wedi'i ddiffinio yn y Codau cysylltiedig eraill. Felly, a oes rheswm dros y dull gwahanol a pham mae'r term wedi'i ddiffinio ar gyfer y Cod hwn ond nid ar gyfer y Codau cysylltiedig eraill?

5.     Ym mharagraff 1.10, nid oes diffiniad o'r term "rhestr plaid" er ei fod yn cael ei ddefnyddio ar un achlysur ym mharagraff 3.12 o'r Cod ac yn derm sydd wedi'i ddiffinio yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2025. Felly, dylid diffinio'r term hwn yn y Cod hefyd os bwriedir iddo fod â’r un ystyr ag a roddir gan erthygl 2(1) o Orchymyn 2025.

6.     Ym mharagraff 1.10, yn y diffiniad o “cyfnod a reoleiddir”, mae’r cyfeiriad yn anghyflawn lle mae’n nodi “Mae adran 89B(6) yn cyfeirio at y cyfnod hwn” gan nad yw’n nodi’r Ddeddf sy’n cynnwys yr adran honno. Mae cyfeiriadau eraill ym mharagraff 1.10 fel arfer wedi cynnwys “o PPERA” wrth gyfeirio’r darllenydd at adrannau o’r Ddeddf honno.

7.     Yn y pennawd uwchben paragraff 6.17, ac ym mharagraff 6.18, defnyddiwyd y term “plaid wleidyddol gofrestredig” (er mewn gwahanol leoedd yn nhestunau’r ddwy iaith o baragraff 6.18). Fodd bynnag, ym mharagraff 1.10, diffinnir y term “plaid wleidyddol” fel plaid sydd wedi’i chofrestru o dan Ran 2 o PPERA. Os nodir y diffiniad o “plaid wleidyddol” fel plaid sydd wedi’i chofrestru o dan Ran 2 o PPERA, mae’n ymddangos bod y gair “cofrestredig” yn y disgrifiadau hynny yn ddiangen. Mae, hefyd, o bosibl yn gamarweiniol i'r darllenydd os yw'r termau “plaid wleidyddol” a “phlaid wleidyddol gofrestredig” yn dwyn yr un ystyr yn y Cod.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

14 Ionawr 2026